Robert Armstrong-Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:51, 9 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Armstrong-Jones (1857-1943) yn ŵyr i Owen Roberts, asiant tir Ystad y Faenol, ac yn berchennog Plas Dinas, yn Y Bontnewydd. Roedd mab Owen Roberts, Syr Owen John Roberts, yn arloeswr ym myd addysg, a oedd yn rhannu ei amser rhwng Plas Dinas a Henley Park, Guildford. Bu farw ym 1915, gan adael Plas Dinas a’r ystâd fechan a oedd yn gysylltiedig â’r eiddo i’w ferch, Margaret Elizabeth (1868-1943) a oedd wedi priodi â Robert Jones (Armstrong-Jones wedi hynny). Roedd Robert Jones yn feddyg dylanwadol yn Llundain ac yn fab i weinidog o Gricieth, Thomas Jones, a’i wraig Jane Elisabeth Jones. Penderfynodd fabwysiadu Armstrong fel cyfenw ychwanegol ym 1913 - roedd Armstrong yn gyfenw mam Margaret Elizabeth cyn i honno briodi â Syr Owen.

Cafodd Robert ac Elizabeth Armstrong-Jones fab, Ronald Owen Lloyd, a dwy ferch.

Mab i Ronald oedd y ffotograffydd enwog Anthony Armstrong-Jones.