Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:42, 9 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni (The Llyfni Vale Railway & Harbour) yn gynllun nas gwireddwyd i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle at y môr gan osgoi defnyddio harbwr Caernarfon trwy greu siwrne lai ar hyd cledrau at lan y môr ym Mhontlyfni.Y pryd hynny, sef tua diwedd y 1850au, roedd nifer o gynlluniau ar droed i ddod â chledrau lled safonol trwy Uwchgwyrfai ac Eifionydd i gysylltu’r lein o Fangor I Gaernarfon gyda rheilffyrdd arfordir Bae Ceredigion.

Yr awgrym oedd defnyddio traciau Rheilffordd Nantlle o’r chwareli hyd Pen-y-groes, lle byddai lein newydd yn cychwyn ar hyd Afon Llyfni i harbwr newydd sbon i’w godi ym Montlyfni. Enw’r harbwr hwnnw fyddai “Port Newborough”. Mae’n debyg mai lein 3’ 6” o led rhwng y cledrau oedd dan sylw, gyda’r trenau wedi eu tynnu, mae’n debyg, gan geffylau. Cysyniad costus ydoedd, felly, ond yn defnyddio technoleg hen ffasiwn.

Codwyd llawer o wrthwynebiad i’r holl syniad pan aeth y mesur preifat o flaen y Senedd yn San Steffan fis Chwefror 1859. Roedd ymddiriedolwyr Harbwr Caernarfon a chwmni Rheilffordd Nantlle yn daer yn eu gwrthwynebiad, a gwrthodwyd y mesur gan y Senedd. Ail-godwyd y syniad ym mis Tachwedd 1859, ond unwaith eto fe’i gwrthodwyd - a dyna oedd diwedd y mater.

Dichon mai ffordd o danseilio Rheilffordd Nantlle a gludai’r llechi ar hyd lein hirach na’r hyn a fwriadwyd yn y cynllun hwn oedd y tu ôl i’r syniad, ac efallai na fwriadwyd iddo erioed gael ei wireddu. Awgryma J.I.C. Boyd mai dyfais i gael cwmni Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) i ddatgan beth oedd eu cynlluniau yn yr ardal oedd y cwbl.[1]

Mae planiau’r lein arfaethedig i’w gweld yn yr archifdy yng Nghaernarfon.

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.33-4.