David Lloyd George

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:48, 8 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Er iddo fod yn ffigwr amlwg iawn yng ngwleidyddiaeth y sir - ac yn wir y wlad i gyd - prin oedd cysylltiadau uniongyrchol David Lloyd George ag Uwchgwyrfai a'i ymwneud â'r cwmwd. Roedd ei hen daid, Richard David Lloyd (ganed 1772) yn hanu o blwyf Clynnog Fawr. Fe briododd ddwywaith a disgynnydd iddo ef a'i ail wraig, Elizabeth Roberts (g.1776), oedd David Lloyd Pritchard a aned ym 1800 yn Llanystumdwy. Ef oedd taid David Lloyd George. Fe briododd David Lloyd Pritchard â Rebecca Williams (merch William ac Elin Samuels) yn Nenio (Pwllheli) ym 1824.[1]

Saif un cysylltiad arall pwysig ym mywyd personol Lloyd George sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai. Roedd Margaret ei wraig yn hanu o deulu Tyddyn Mawr, Llanaelhaearn, a phan oedd y ddau'n canlyn a theulu Margaret yn anhapus ynglŷn â'r berthynas, fe'i hanfonwyd hi am gyfnod o'i chartref, Mynydd Ednyfed, Cricieth, at ei hewythr a oedd yn ffermio yn Llyn y Gele, Pontlyfni, yn y gobaith y byddai pellter rhyngddynt yn oeri'r berthynas. Ysywaeth, ymwelodd Lloyd George â Margaret yno a dywedir mai ar risiau llofft yr ŷd Llyn y Gele y bu i'r ddau ddyweddïo.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth gan Ivor Gwyn
  2. Gweler erthygl ar Llyn y Gele am gyfeiriadau.