Siôn Prichard Prys

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:10, 19 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Siôn Prichard Prys (bu farw 1724) yn fardd o Eglwysael (Llangadwaladr), Ynys Môn. Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, cyfansoddodd farwnad i Edmund Price, ficer Clynnog Fawr, a fu farw ym 1721. Roedd yn fardd a ysgrifennodd mewn amryw o fesurau, o gywyddau ac englynion i gerddi rhydd. Nid yw'n hollol glir beth oedd ei gysylltiad ag Edmund Price ond o'r cywydd mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â'r teulu ac â'r eglwys. Mae'r farwnad ar ffurf ymgom rhwng y prydydd a'r eglwys, yn galaru ar ôl y gwrthrych.[1]

Mae'r farwnad dan sylw wedi ei hatgynhyrchu yn erthygl Cof y Cwmwd ar Edmund Price. Mae'r copi gwreiddiol ohoni ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.759
  2. Llsg. Peniarth 196, t.20