Elis Dafydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:48, 10 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a fagwyd yn Nhrefor yw Elis Dafydd, ac mae'n frawd iau i'r Prifardd Guto Dafydd. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi, "Chwilio am dân" (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor a chyflawnodd waith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor John Rowlands. Bu'n gweithio fel cyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy am gyfnod byr ac yn 2021 fe'i penodwyd i swydd ddarlithio yn ei hen adran, Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau