Brian Owen
Roedd Hugh Brian Owen (1935-2014), Cefn Rhos, Y Groeslon, yn adroddwr o fri a enillodd lu o wobrau mewn eisteddfodau. Mab ydoedd i John Henry a Nellie Owen, Rhiwenfa, er iddo gael ei fagu gan ei nain a'i daid yng Nghefn Rhos.
Enillodd bum gwaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, a derbyn cwpan aur. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965, roedd wedi ennill y gystadleuaeth adrodd i ddynion dros 25 oed bump o weithiau. Cafodd ei hyfforddi gan Dr John Gwilym Jones. Ym 1961, enillodd y Rhuban Glas i Adroddwyr, sydd ond yn agored i enillwyr y categorïau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn, y brif wobr am adrodd neu lefaru, ddwywaith, sef ym 1965 a 1968. Roedd yn un o ddim ond tri sydd wedi cyflawni'r gamp honno - y lleill oedd Stewart Jones yr actor a Siân Teifi.[1]
Roedd yn adroddwr poblogaidd hefyd mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddwyd record ohono'n adrodd gan Recordiau'r Dryw.[2]
Bu farw yn ystod Rhagfyr 2014 yn 79 oed.