Antony Armstrong-Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:20, 10 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Antony Armstrong-Jones, y ffotograffydd a briododd y Dywysoges Margaret, yn ddisgynnydd i'r teulu Roberts a fu'n byw ym Mhlas Dinas, Y Bontnewydd yn y 19g. Fe'i penodwyd yn Iarll Yr Wyddfa yn dilyn ei briodas. Trwy briodas, yr oedd ei daid, y seiciatrydd Robert Armstrong-Jones, wedi etifeddu'r ystad fechan a'r plas. Er nad oedd o erioed wedi byw yno, ar wahân i gyfnodau pan oedd ar ei wyliau'n blentyn, arddelai Antony ei gysylltiad teuluol â'r ardal, a defnyddiodd y plas fel llety disylw ar gyfer gwyliau gyda'i wraig y Dywysoges. Yn wir, bu rhai coeglyd eu natur yn cyfeirio at honno fel "Magi'r Bont" oherwydd y cysylltiad. Ail-briododd wedi iddo fo a'r Dywysoges ysgaru.

Oherwydd ei gysylltiadau brenhinol a'r ffaith ei fod yn gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, fe'i rhoddwyd yn gyfrifol am addurno Castell Caernarfon ym 1969 ar gyfer sioe yr arwisgiad. Dros y blynyddoedd, cymerodd ran mewn rhai o'r dadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac fe'i penodwyd yn farwn am oes er mwyn iddo gael parhau yn y swyddogaeth honno wedi i arglwyddi etifeddol golli eu hawl awtomatig i eistedd yn y Tŷ. Cafodd nifer o anrhydeddau, a bu'n weithgar ar rai cyrff Cymreig megis Cwmni Theatr Cymru (Saesneg) ac Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.

Bu farw yn 2017 a'i gladdu ym mynwent Llanfaglan.[1]

  1. Wikipedia, erthygl ar Antony Armstrong-Jones, [1], cyrchwyd 04.05.2022]