T. H. Parry-Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:47, 8 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

I fod yn fanwl gywir, nid oedd Thomas Herbert Parry-Williams (1887-1975) yn hanu o Uwchgwyrfai, gan iddo gael ei eni yn Nhŷ'r Ysgol, Rhyd-ddu yn y rhan o'r pentref y tu draw i ffin cwmwd Uwchgwyrfai. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol leol, cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Porthmadog. Aeth ymlaen i Goleg Aberystwyth, ac o 1920 hyd ei farwolaeth ym 1975 yno y bu'n byw. Am fanylion llawn am ei fywyd, gweler yma: [1] .

Ymysg ei ysgrifau a'i gerddi, fodd bynnag, sydd yn aml yn tynnu ar ardal ei wreiddiau, mae llawer o sôn am rannau o Uwchgwyrfai ger ei gartref.

Roedd ei dad, Henry Parry-Williams, yn hanu o bentref Carmel, ac o'r un teulu â Thomas Parry, Gruffudd Parry ac R. Williams Parry. Parry oedd cyfenw ei deulu yntau hefyd nes i'w dad ychwanegu "Williams" at ei gyfenw er cof am ei daid.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur ar-lein, [2]