Karen Owen
Bardd, newyddiadurwr, darlledwraig a gweinidog yw Karen Owen. Cafodd ei magu ym Mhen-y-groes ac mae’n dal i fyw yno. Ar ôl dyddiau ysgol yn Ysgol Gynradd Pen-y-groes ac Ysgol Dyffryn Nantlle, aeth ymlaen i Brifysgol Bangor, lle astudiodd fathemateg. Serch natur ei gradd, penderfynodd ddilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth, gan ymuno â staff Golwg fel gohebydd y celfyddydau; o 2000 hyd 2007 hi oedd golygydd Golwg. Am dair blynedd wedyn, bu’n gynhyrchydd rhaglenni celfyddydol gyda’r BBC. Yn 2010, trodd yn ôl at newyddiaduraeth brint trwy dderbyn swydd gyda’r Cymro a gweithio fel awdures lawrydd.
Fel bardd, mae wedi cyhoeddi Yn Fy Lle yn 2006 a Siarad Trwy’i Het yn 2011, y ddwy gyfrol wedi’u cyhoeddi gan Wasg Barddas; a Glaniad (ar y cyd â Mererid Hopwood) yn 2015. Bu’n athrawes ar sawl dosbarth cynganeddu. Mae hefyd wedi ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol. Enillodd ysgoloriaeth Winston Churchill yn 2011 er mwyn gallu teithio dramor i ystyried traddodiadau sawl gwlad, yn cynnwys Colombia, India, Wcráin a De Affrica. Yn 2014-15, treuliodd hanner blwyddyn yn byw yn Fienna’n darlithio ar Lenyddiaeth Cymru yn y brifysgol yno, gan aros mewn cwfaint dinesig.[1]
Yn 2020, ar ôl nifer o flynyddoedd yn pregethu, derbyniodd alwad i’r weinidogaeth fel gweinidog eglwysi Capel y Groes (MC), Pen-y-groes a Chapel Soar (A), Pen-y-groes.