David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:28, 12 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd David William Pughe (1821-1862) yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i Eben Fardd. Hanai ei dad o deulu Lleuar Bach a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal Clynnog Fawr pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm Bachwen. Brawd iddo oedd John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg).[1]

O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, ac fe gymhwysodd ei hun trwy ddod yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (MRCS) fel ei frawd o'i flaen. Hefyd, o'i blentyndod, fe fagodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifennodd sawl lyfr ar gestyll Cymru a hyd yn oed lyfr dan yr enw Awstralia, neu ar wlad yr aur, ynghyd â nifer o erthyglau yn y cylchgrawn hynafiaethol, Archaeologia Cambrensis.

Fe'i trawyd gydag iselder affwysol ar ddiwedd ei oes fer. Erbyn 1858 roedd wedi rhoi'r gorau i weithio'n llwyr ac wedi ymneilltuo o bob cymdeithas, a bu farw yn Nhachwedd 1862. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn agos at fedd Eben Fardd, ei gyfaill. Ynghanol ei bruddglwyfni, ysgrifennodd yr hyn a fwriedai yn feddargraff iddo'i hun,[2] sef:

Wyf iach o bob afiechyd,
Ac yn fy medd gwyn fy myd.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. John P. Cule, John Pughe (1814-1874) [1]
  2. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), tt.47-8.