Y Gurn Ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:29, 10 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gurn Ddu yn fynydd uwchben ardal Tyddyn Hywel a phentref Gurn Goch. Mae'r copa ym mhlwyf Llanaelhaearn er bod rhan o'r mynydd ym mhlwyf Clynnog Fawr. Ar yr ochr serth sy'n wynebu'r môr ceir olion dwy hen chwarel ithfaen, er na fu'r un ohonynt mor llewyrchus o gryn dipyn â chwareli'r Eifl. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, gopa uchaf y pum copa, Gurn Ddu, Gurn Goch, Bwlch Mawr, Clipiau a Moel Bronmiod. Mae hen garneddau, sef pentyrrau o gerrig o'r Oes Efydd ar ystlys dde-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau, megis cytiau crynion o'r Oes Haearn, yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch. Ail-ddefnyddiwyd rhai o'r hen waliau hyn i greu corlannau defaid ar ryw adeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau