Cwm Mynaches

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:05, 9 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cwm Mynaches yng Nghwm Dulyn, Nebo.

Mae'n bosib mai cysylltiad ag Eglwys Clynnog sy'n cyfrif am yr enw hwn ac awgrymodd Twm Elias mai yno yr arferid mynd i chwilio am lysiau llesol - i'r un safle ag y byddai Doctor Bach y Mynydd, neu D.T. Jones, yn cael ei ddŵr pur i wneud ei ffisig Llanllyfni enwog ac o Gors-y-Llyn a Chwm y Fynaches gerllaw y deuai amryw o'i lysiau llesol ef.

Mae'r gair "mynaches" yn brin, brin ond fe'i ceir hefyd ym Mhontrhydfendigaid gerllaw hen fynachlog enwog Ystrad Fflur (Lôn Mynaches a Nant Mynaches). A oedd yna leiandy yng Nghlynnog tybed? Yr unig awgrym o hynny yw enw'r cae Bryn Gwyryfdy sydd yn ffinio â Lôn Pant a llwybr Cae Bont. Gall gwyryfdy olygu lleiandy neu gwfaint yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.