Afon Rhydus
Afon Rhydus yw enw'r nant neu afonig sydd yn rhedeg i lawr y cwm cul ar ôl codi mewn llyn bach i'r dwyrain o Lynnoedd Cwm Silyn. Ar y mapiau Ordnans gelwir yr afon hon yn Afon Craig-las yn ei rhan uchaf o leiaf. Mae'n nodi'r ffin rhwng ffermydd Tal-y-mignedd Isaf a'r Ffridd,[1] ac eiddo Ystad y Faenol a Richard Garnons ar ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle.[2] Mae'n rhedeg i ben uchaf Llyn Nantlle Uchaf. Weithiau fe sillefir yr enw yn Rhitys, sydd yn amlygu'r ynganiad.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma