Ffynnon y Doctor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:43, 31 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon y Doctor wedi'i lleoli ar lethrau Garnedd Goch ym mhlwyf Llanllyfni. Fe'i henwir ar ôl "Yr Hen Ddoctor Mynydd", sef David Thomas Jones, a arferai ddefnyddio dŵr o'r ffynnon. Y traddodiad oedd ei bod yn ffynnon iachusol, gyda'r dŵr yn dda at drin y crydcymalau a'r eryr. O gael ei ddadansoddi'n gemegol, fodd bynnag, cafwyd nad oedd y dŵr yn wahanol yn gemegol i'r hyn a geir yng nghronfa ddŵr Llyn Dulyn.

Mae rhywfaint o gerrig a osodwyd fel ymylon neu balmant i'w gweld o gwmpas y ffynnon, gan ddangos ei bod wedi bod yn gyrchfan ar un adeg.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1]