Betws Garmon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:05, 23 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cafodd ffiniau plwyf Betws Garmon, a orweddai'n wreiddiol yn gyfan gwbl yn Isgwyrfai, eu hymestyn ym 1895[1]. Y flwyddyn honno, sefydlwyd cysyniad newydd o 'blwyfi sifil', sef yr uned fwyaf lleol o lywodraeth leol; cyn hynny, roedd cyfarfod o'r plwyfolion, neu festri, yn gyfrifol am faterion eglwysig a dinesig o fewn ffiniau'r plwyf.

Ym 1895, newidwyd ffin plwyfi Betws Garmon a Llanwnda wrth i'r llethrau mynyddig a wynebai'r dwyrain a glannau gorllewinol Afon Gwyrfai o Bont Cyrnant, Waunfawr ym mhlwyf Llanwnda gael eu trosglwyddo i blwyf sifil Betws Garmon. Felly, mae rhan o Fetws Garmon bellach o fewn ffiniau Uwchgwyrfai. Ymdrinnir yn Cof y Cwmwd â phynciau sydd yn ymwneud â'r rhannau hynny o Fetws Garmon sydd wedi bod yn Uwchgwyrfai er 1895, a'r rhannau hynny'n unig.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XPlansS/9