George Borrow

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:38, 23 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ymwelodd George Borrow, y nofelydd ac ysgrifennwr llyfrau taith, â chyrion Uwchgwyrfai ar daith trwy Eryri tua 1861, pan oedd yn gwneud ymchwil ar gyfer ei lyfr taith enwog, Wild Wales. Canolbwyntiodd ar yr ardaloedd o gwmpas Llangollen a Wrecsam, fodd bynnag, ac er iddo fentro i Eryri o leiaf unwaith a threulio amser ar Ynys Môn, ni fentrodd i Uwchgwyrfai heblaw am Ddyffryn Gwyrfai pan oedd ar daith i Feddgelert o Gaernarfon. Soniodd am Pen Drws Coed, sef Mynyddfor, (neu Fynydd Grug i bobl Dyffryn Nantlle), gan nodi ei fod yn debyg i eliffant ar ei orwedd. Ar ôl galw am luniaeth yn nhafarn Betws Garmon, aeth heibio i Lyn Cwellyn, lle mae'n cofnodi ei fod yn ddwfn iawn, a bod llawer o frithyll, pewnhwyaid a thorgochiaid yn cael eu dal yno.

Wild Wales a anogodd lawer iawn o bobl i ymweld â'r ardal am y tro cyntaf, yn arbennig gan fod rheilffyrdd yn dechrau hwyluso teithio i Gymru o ardaloedd poblog Lloegr.

Am fanylion cyffredinol amdano, gweler Wicipedia: [1]