Melin Glan-yr-afon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:11, 17 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.[1] Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.[2]

Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid erbyn hynny yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu blancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym Mhen-y-groes.[3]

Mae rhestr o beiriannau'r felin cyn iddi gau ar gael ac wedi ei hargraffu yn llyfr J. Geraint Jenkins.[4] Ymysg yr offer yr oedd dwy injan gardio, un ohonynt yn cynhyrchu deugain edefyn ar y tro; peiriant nyddu gyda 220 o werthydau; melin ystofi; peiriant torri; dau wŷdd wedi'u pweru 120 modfedd o hyd ar gyfer gwneud blancedi; a chyfarpar lliwio. Yr oedd cyffion pandy yno hefyd i bannu'r defnyddiau a gynhyrchid ac mae hyn yn esbonio efallai pam fod pandai'r ardal wedi diflannu'n gynt na'r melinau - aeth yr holl broses dan yr un to.

Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail-enwi'r felin fel The Woollen Mill, Clynnog Road.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  2. Hen Luniau Dyffryn Nantlle (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.
  3. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), tt.243-4.
  4. op. cit., t.244