Hugh Owen, Orielton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:24, 16 Mawrth 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Perchennog ystad yn Uwchgwyrfai oedd Hugh Owen, Orielton (1782-1809). Hen deulu o Sir Fôn oedd ei deulu'n wreiddiol. Priododd un o hynafiaid yr Hugh Owen hwn, sef Syr Hugh Owen a fu farw ym 1613, ag Elisabeth Werrior, unig aeres ystâd Orielton yn Sir Benfro, ac o hynny ymlaen symudodd prif ganolfan y teulu i Sir Benfro. Serch hynny, arhosodd y cysylltiad â'r Gogledd yn fyw, a thrwy nifer o briodasau gyda merched o Fôn a Sir Gaernarfon, cafodd y teulu diroedd eraill yn ogystal â'u hen ystâd ym Modeon. Rhestrir yr eiddo a oedd ym mherchnogaeth y teulu mewn erthygl ar wahân, gyda'r teitl Ystad Orielton.

Yr Hugh Owen sydd dan sylw oedd y 6ed Barwnig, a'r Owen olaf yn yr achres uniongyrchol i fod yn berchennog ar dir yn y cwmwd, gan iddo farw'n ifanc ac yn ddi-briod, gan adael ei eiddo i gyfyrder iddo, sef John Lord. Ar wahân i'w berthnasedd ag Uwchgwyrfai fel landlord, ei brif gyfraniad i hanes y cwmwd oedd iddo osod ei dir ar ochr ogleddol Dyffryn Nantlle i rai a oedd yn awyddus i dyllu am gopr, gan barhau'r diwydiant copr yn y dyffryn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.58