Gwaith Llechi Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:31, 6 Mawrth 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Gwaith Llechi Llifon (neu Gwaith Hafod-y-nant) tua chwarter milltir i fyny'r allt o dreflan Maes Tryfan, ar lan Nant yr Hafod, sy'n llifo i Afon Llifon. Weithiau, fe alwai pobl yr ardal y gwaith hwn "yr injian". Roedd dŵr yn cael ei gyfeirio yno hefyd o lyn ger Braich Trigwr Mawr, er mwyn troi olwyn ddŵr a yrrai beiriannau'r gwaith, a gynhyrchai lechi ysgrifennu a cherrig nadd. Robert Jones oedd enw perchennog y gwaith.[1]

Roedd y gwaith llechi i'r dwyrain o'r lôn fach sydd yn rhedeg o gyfeiriad Rhosnenan a'r Groeslon i bentref Maes Tryfan rhwng Hafod-boeth a Phen-y-bont. Mae tŷ newydd wedi ei godi ar y safle. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr, (1887) yn nodi bod y gwaith eisoes wedi cau.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.
  2. Map Ordnans 25" i'r filltir, gol. 1af, (arolygwyd 1887)