Chwarel Tyddyn Agnes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:30, 24 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi fechan oedd Tyddyn Agnes, yn agos i Chwarel Ty'n Llwyn, rhwng Tal-y-sarn a Llanllyfni. (SH 488520).

Twll bychan oedd Tyddyn Agnes, a chredir iddi gael ei gweithio gan ryw ugain o weithwyr rhwng 1860 a 1870. Credir i'r nifer yma ostwng yn sylweddol hyd at ei chau tua 1890.[1] Erbyn y diwedd, dau neu dri'n unig oedd yn gweithio yno.[2] Mae map Ordnans 1888 yn dangos bod prif dwll y chwarel fach hon eisoes wedi ei lenwi â dŵr. Credir i lechi o'r chwarel hon gael eu hanfon at brif lein Rheilffordd Nantlle, ac wedyn Cangen reilffordd Nantlle ar hyd Rheilffordd Chwareli Llechi Sir Gaernarfon, enw crand ar dramffordd 3' 6" o led a wasanaethai ddwy neu dair o chwareli ar ochr ddeheuol y dyffryn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 332.
  2. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), t.76