Chwarel Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:32, 23 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Tal-y-sarn, ger pentref Tal-y-sarn heddiw. (SH 495534). O 1828 ymlaen defnyddid Rheilffordd Nantlle i gludo ei chynnyrch.

Roedd y chwarel hon ar wahân i Dorothea ar un cyfnod, a chredir ei bod yn un o chwareli hynaf Dyffryn Nantlle. Roedd cant o chwarelwyr yn gyflogedig yno ym 1790, ac roeddynt yn cynhyrchu o leiaf 1,000 tunnell y flwyddyn. Roedd gŵr o'r enw John Evans a'i bartneriaid wedi cael les ar dri thwll ar dir fferm Tal-y-sarn ym 1802, cyn bodolaeth y pentref sy'n sefyll heddiw. Enwyd y cwmni a ffurfiwyd yn "Gwmni Llechi Talysarn" (Talysarn Slate Company).

Erbyn y 1830au, roedd techneg 'water balance' yn cael ei defnyddio yno, ac erbyn y 1840au roedd cynnyrch y chwarel o gwmpas 6,000 tunnell y flwyddyn. O tua 1846 tan 1857, George Bowness oedd yr asiant, nes iddo droi ei law at amaethu. Cafodd helyntion pan gododd ffrae ynglŷn â pherchnogaeth llechi ar y Cei yng Nghaernarfon; er nad oedd o wedi sbarduno pethau, mae'n debyg, aeth chwarelwyr y chwarel i lawr i'r Cei a rhaid oedd darllen y Ddeddf Derfysg.[1]

Bu gostyngiad mawr yn fuan ar ôl hyn, ond erbyn y 1870au roedd pethau yn dechrau gwella yno, ac ym 1873 daeth nifer o dyllau chwarel at ei gilydd i ffurfio Cwmni Cyfyngedig Chwarel Lechi Tal-y-sarn; roedd y cwmni hefyd yn gweithio Chwarel y Fron. Yn ôl Dewi Tomos, roedd tua 500 o ddynion yn gweithio yno o gwmpas 1880 a chafwyd injan stêm ac incléin yn y chwarel - arwydd addawol o'i llewyrch erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd John Robinson yn berchennog erbyn 1882, a chyflogwyd tua 400 o ddynion yn y chwarel yn ei gyfnod ef, gan droi allan 8210 tunnell o lechi mewn blwyddyn.

Cofrestrwyd y cwmni'n ffurfiol ym 1904, pan oedd mab John Robinson, Thomas, wrth y llyw, a chafwyd yr hawl i gymryd Chwarel Fraich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt drosodd.[2]

Dirywiodd cynhyrchiant yno o gwmpas cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chaewyd hi ym 1926 - er hyn, cymerwyd hi drosodd gan Chwarel Dorothea yn y 1930au, ac roedd gwaith ar raddfa lai yno hyd 1945.[3][4]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 17.1.1857
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.232
  3. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  4. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 331.