Chwarel Blaen-y-cae

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:31, 18 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Blaen-y-Cae ger Chwarel Dorothea a Chwarel y Fron ger Nantlle.

Chwarel fechan oedd y chwarel hon, ac agorwyd hi o gwmpas 1830. Cariwyd llechi'r chwarel hon ar flondin arbennig, ac ar inclein chwarel Cilgwyn i Dal-y-sarn. O gwmpas 40 o ddynion oedd yn gweithio yno pan oedd ar ei phrysuraf, a chynhyrchodd 800 tunnell yn flynyddol yn y cyfnod hwn.[1]

Cafodd ei huno ym 1905 gyda chwarel Tal-y-sarn pan aeth i ddwylo perchennog nifer o chwareli eraill, Thomas Robinson, oedd yn berchen ar Chwarel Tan'rallt, Cloddfa'r Coed a Chwarel Braich hefyd. Dywedir iddi gau cyn y 1930au, ac mae Jean Lindsay yn nodi'r dyddiad 1909, sef ar ôl iddi gael ei phrynu (ond nid ei gweithio) gan gwmni Chwarel Dorothea.[2].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  2. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, (Newton Abbot, 1974), t.310.