Ysgol Gynradd Bontnewydd
Ysgol gynradd ym mhentref Y Bontnewydd yw Ysgol Bontnewydd. Mae'n sefyll ar lan Isgwyrfai yr Afon Gwyrfai.
Sefydlwyd yr ysgol o gwmpas 1865, a gelwid hi bryd hynny yn Bontnewydd National School. Yn ddiweddarach fe'i galwyd yn Bontnewydd Board School, a Bontnewydd Council School cyn cael ei galw yn briodol iawn yn Ysgol Gynradd Bontnewydd.[1]
Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd ym 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei ddefnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 1993.[2] Daeth yn lle hen neuadd bren a losgwyd yn llwyr ychydig cyn hynny. Safai honno ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon, gyferbyn â Phentref Uchaf. Mae tŷ annedd wedi ei godi ar ei safle erbyn hyn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma