Bryngaer Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:11, 1 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Credir i Fryngaer Dinas Dinlle ddyddio'n ôl cyn belled â 3000 o flynyddoedd.

Mae erydu difrifol wedi achosi i lawer o’r hen gaer gwympo i'r traeth islaw, er y gellir gweld hyd heddiw ei huchder ac gellir dychmygu sut yr edrychai yn ei hanterth. Mae dadl rhwng haneswyr lleol o gwmpas y syniad fod y lle hwn yn rhywbeth artiffisial. Mae’r ffaith fod hen lôn Rufeinig yn arwain o’r gaer hon i Gaer Segont (Caernarfon) a elwid yn ‘Sarn Helen’. Mae ffyrdd ‘equestri’ a’r ‘pedestri’ (ffordd i’r marchogion, ac i’r milwyr ar draed) oedd yn arwain o’r gaer i gyfeiriad Caernarfon a’r Foryd.

Darllen Pellach

Williams, Ifor Dinlleana, (Trafodion Gymdeithas Hynafiaethol Ynys Mon 1948).

Williams, W. Gilbert Dinas Dinlle, (Cymru 1905, Cyf. 29)

Gwefan Coflein Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.