Pen-y-gaer

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:29, 31 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pen-y-gaer yw enw un o'r pum copa yng ngrŵp bryniau neu fynyddoedd isel Gurn Ddu. Mae hefyd yn enw ar y fryngaer sydd yn amgylchynu holl ben y bryn. Mae'n sefyll ar gyrion mwyaf dwyreiniol plwyf Llanaelhaearn. Ei uchder yw 1270 troedfedd neu 387 metr uwchben lefel y môr. Ar ei lethr ogleddol ceir olion hen waith manganîs.[1]

Mae'r fryngaer yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn. Mae mur trwchus o gerrig, sydd hyd at 4.5 metr o led mewn mannau, yn amgylchynu pen y bryn gan amgáu o'i fewn tua dwsin o safleoedd cytiau crwn. Ceir grŵp arall o gytiau cynhanesyddol gerllaw, wrth droed y bryn ger fferm Tyddyn-mawr. Ceir caeau cynhanesyddol ger y cytiau ac, er nad oes modd profi eu bod yn gysylltiedig â'r gaer, mae'n debyg eu bod.[2]

Yn arwain at y fryngaer o gyfeiriad y gogledd-ddwyrain mae hen drac neu ffordd sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y fryngaer ei hun. Dyma yn ôl pob tebyg y lôn wreiddiol at y fryngaer a dyma un o ddim ond dwy ffordd o'r Oes Haearn yn Sir Gaernarfon (mae'r llall yn arwain at Dre'r Ceiri. Mae'r olion yn cychwyn ar ochr y bryn nid nepell o ble mae lôn gefn Mynachdy Gwyn yn ymuno â'r lôn heibio Cwm a Hengwm.Mae'r lôn at Ben-y-gaer bron yn syth am hanner milltir ac, ar ôl diflannu am ychydig, mae'n gwyro ychydig at borth y gaer. Am ran o'r ffordd mae'r lôn yn rhedeg rhwng waliau isel a oedd yn ffurfio rhan o system o gaeau.[3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans
  2. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1977), tud. 51; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.103
  3. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.lxv