Mount Hazel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:42, 27 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mount Hazel heddiw

Saif plasty Mount Hazel ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o dreflan Tŷ'nlôn. Collfryn Bach oedd hen enw'r tŷ a'r ystâd fechan oedd ynghlwm wrtho, a dichon bod rhyw berchennog wedi teimlo fod yr enw hwnnw'n rhy israddol i eiddo a dyfodd yn blasty! Roedd yr enw wedi ei sefydlu erbyn dechrau'r 19g., pan oedd Thomas Lewis, yswain (Casglwr Trethi Caernarfon) a'i deulu'n byw yno.[1]

Cafodd Thomas Lewis bedair o ferched a dichon felly i'r plasty fynd yn wag wedi iddynt ymadael â'u cartref. Ym 1839, beth bynnag, roedd Hugh Jones yn denant, a'r eiddo yn perthyn i'r Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg ger Castell Nedd, a hanai o Gaernarfon ac a briododd Mary Bodvel Lewis, wyres Thomas Lewis;[2][3] ac erbyn 1856, roedd yr eiddo wedi ei osod i John Owen, amaethwr o Mount Hazel.[4]

Pan werthwyd yr ystad ym 1882 gan Jane (merch-yng-nghyfraith Thomas Lewis a mam-yng-nghyfraith David Hanmer Griffith),[5] roedd yr ystâd yn cynnwys nifer helaeth o ffermydd a gwahanol eiddo - Cae Llywarch, Mount Hazel, Tŷ ucha, Caellidiart ucha, Rallt, Tirion Twrog, Caeffridd, Tŷ bach, Taigwynion, Glanymorfa and Lleiniau ym mhlwyf Llandwrog yn unig,(ac a werthwyd i Ystad Glynllifon[6] ac eiddo hefyd ym mhlwyfi Llanwnda, Carnguwch, Llannor, Pistyll, Edern a Denio (sef Pwllheli).[7]

Wedi i'r eiddo fynd yn rhan o Ystâd Glynllifon, bu llawer o ailadeiladu ac ehangu ar y plasty, rhwng 1904 a 1928.[8] Honnir fod y 10fed Arglwydd Newborough wedi ei eni yn y plasty. Erbyn heddiw, mae'r tŷ yn cael ei osod i bartïon mawr o ymwelwyr. Mae wedi ei foderneiddio ymhellach ac mae 8 o lofftydd yno.[9]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd X/Poole/3321
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.176.n
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map Degwm Llandwrog [1]
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor B/1856/104.
  5. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.176.
  6. Archifdy Gwynedd XD2/8572.
  7. Archifdy Gwynedd XD2/6666.
  8. Archifdy Gwynedd XD2/11807-17.
  9. Gwefan Group Accommodation.com [2], cyrchwyd 10.6.2019