Express Motors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:05, 7 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad [[Y Fron}} oedd Express Motors. Fe'i alwyd y bysiau hyn yn "fysiau Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r fysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd y cwmni i gwmni arall lleol, sef Bysiau Seren Arian neu "Silver Star".

Maes o law prynwyd yr enw gan y perchnogion presennol, ac o dipyn i beth ehangwyd y teithiau, yn gyntaf i leoedd eraill cyfagor, megis Nantlle a Dinas Dinlle, ond yn fwy diweddar (ar ôl agor depo ym Mlaenau Ffestiniog) mor bell ag Aberystwyth, Llanrwst, LLandudno, Porthmadog a'r Bermo.

Yn wreiddiol defnyddid lliwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond ar ôl i gwmni Arriva ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.

Ataliwyd pob gwasanaeth Express ar ddiwedd 2017. Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma