Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:13, 26 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffurfiwyd Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon yn sgil Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion (the Poor Law Amendment Act, 1834). Cyn hynny, y plwyfi unigol (dan arolygaeth yr ynadon yn y Llys Chwarter) oedd wedi bod yn gyfrifol am gynnal eu tlodion eu hunain. Fodd bynnag, oherwydd symudiadau yn y boblogaeth a phwysau ar ambell i blwyf, ffurfiwyd undebau, sef cynghreiriau o blwyfi, i ofalu ar y cyd am dlodion yr ardal, gyda thloty, neu "wyrcws", ym mhos undeb.

Yr oedd Uwchgwyrfai yn cael ei rannu rhwng dau undeb: Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon ac Undeb Gwarcheidwaid Pwllheli. Yr oedd plwyf Llanaelhaearn yn Undeb Pwllheli, tra oedd y pedwar plwyf arall yn Uwchgwyfai yn Undeb Caernarfon, ynghyd â rhai o blwyfi Isgwyrfai a phlwyfi de-orllewin Sir Fôn (a arferai edrych tuag at Gaernarfon fel eu tref farchnad a busnes).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma