Edmund Llwyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:00, 18 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Edmund Llwyd (neu Iemwnt Llwyd fel yr arferai'r beirdd ysgrifennu ei enw) farw ym 1540/1 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Yn wir, fel aelodau eraill o'i deulu dros y canrifoedd, roedd ganddo reddf a arweiniodd at gefnogi'r ochr lwyddiannus mewn unrhyw sefyllfa. Pan basiwyd y Ddeddf Uno ym 1536, gwelodd mai'r doethaf oedd cefnogi'r drefn newydd, ac roedd yn ddigon parod i dderbyn y sefydliadau newydd Seisnig, gan ddod yn uchel siryf cyntaf un ei sir enedigol.[1]

Roedd yn ail fab Robert ap Meredydd, penteulu Glynllifon. Roedd brawd hŷn Edmund, Morus Glynn, (sef yr hwn, mae'n debyg, a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf ar gyfer y teulu), yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd. Roedd o felly'n anaddas os nad anghymwys i etifeddu Ystad Glynllifon. Yn ogystal â'r ffaith na ddymunai'r Eglwys i offeiriad fod yn berchen ar gyfoeth mawr, nid oedd offeiriaid Catholig yn cael priodi, ac felly ni fyddai etifeddiaeth yr ystad yn ddiogel. Sylwer, fodd bynnag, er bod Morus a rhai o'i frodyr yn arddel y cyfenw "Glynn", parhai Edmund i ddefnyddio'r cyfenw "Llwyd", a ddaeth yn wreiddiol o'i hen daid, Hwlcyn Llwyd.

Priod Edmund oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan; roedd hi'n weddw Ffowc Salusbury, Llanrwst, pan briododd ag Edmund. Cawsant ddau fab, William Glynn (marw 1594), a etifeddodd y brif ystad; a Robert Glynn, a etifeddodd Sychnant, Llanaelhaearn.[2]

Fel y dywedir uchod, bu farw yn ystod ei deyrnasiad fel uchel siryf cyntaf y sir, ac erys cywydd marwnad iddo gan Lewys ab Edward.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Iwan Llwyd, Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon' (Traethawd anghyhoeddedig MA, Aberystwyth, 1986), tt.68-70.
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172
  3. Iwan Llwyd, Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon' (Traethawd anghyhoeddedig MA, Aberystwyth, 1986), t.69.