Pont-y-gydros
Saif Pont-y-gydros ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Llangybi ar y ffordd fawr o Lanaelhaearn i Bwllheli. Mae'n dyddio i gyfnod cyn y 19g. ond ym 1823 fe estynnwyd waliau ochr y pen gogleddol. Y contractor oedd William Robert Gabriel o Bwllheli, saer maen. Cost y gwaith oedd £80. Ynghyd â thrwsio'r bont ei hun, lledwyd y ffordd dros y bont o 12'4" i 18'6". Y pensaer ar gyfer y gwaith oedd William Thomas, syrfewr y sir.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Gwynedd X/PlansB/87, 204