Pont Storws
Mae Pont Storws yn sefyll ym mhlwyf Llanwnda ar y ffordd o Saron i gyfeiriad Llandwrog, nid nepell o fferm Chatham. Bwa carreg isel yw, dros Afon Rhyd (neu, yn ôl y cynlluniau, Afon Glan-rhyd neu Afon Storws), ychydig cyn i'r afon honno ymuno â'r Afon Carrog.[1]
Fe'i hadeiladwyd o'r newydd ym 1846, er i'r bont gael ei dylunio ym 1837 gan syrfewr y sir, John Lloyd. Pont newydd ydoedd, wedi ei hadeiladu gan Owen Prichard, saer maen o'r Bontnewydd, ar gost o £73.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma