Pont Cyrnant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:04, 12 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Cyrnant neu Bont Crynnant ar ffin Uwchgwyrfai ar draws Afon Gwyrfai ger pentref y Waunfawr, ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda. Hen bont oedd yno cyn 1776 ond, yn y flwyddyn honno, gorchmynnodd y Llys Chwarter y dylid ei hailadeiladu'n llwyr, gan ledu'r ddau hen fwa fel eu bod yn 18' o led (gan nad oeddent gynt ond yn 10' o led) ar draws y ffordd, a'r bwáu'n 21' o rychwant. Y sawl a gafodd y contract oedd David Parry, Caernarfon, llosgwr calch; Thomas Roberts, Caernarfon, saer maen; Owen Prichard, Caernarfon, saer maen; a Lewis Ellis, Pont-y-saint, Llanbeblig, iwmon. Cost y gwaith oedd £195.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau


Archifdy Gwynedd, XPlansB/

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/170