Iona Boggie

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:35, 10 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Aelod o ddeuawd canu gwlad Cymraeg Iona ac Andy yw Iona Boggie ynghyd â'i gŵr, Andrew Edward Boggie (Andy).[1]

Mae'r ddau bellach yn gerddorion proffesiynol, ond am beth amser roedd Iona'n athrawes ysgol gynradd ac roedd Andy'n athro Ffrangeg, yn werthwr gwinoedd, ac yn rheolwr siop. O Nantlle, y daw Iona'n wreiddiol cyn i'r teulu symud i Ddyffryn Conwy. Magwyd ei gŵr ym Mhenmaenmawr. Bu iddynt briodi ym 1980, ac maent wedi bod yn canu fel deuawd am dros 40 mlynedd.

Ar label Cwmni Sain, maen nhw wedi cyhoeddi: Llwybrau Breuddwydion, Y Ffordd, Cerdded Dros Y Mynydd a Gwin Yr Hwyrnos.[2]

Cyhoeddwyd hunangofiant y cwpl, Llwybrau Breuddwydionyn 2007 gan Gwasg Gomer.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y BBC
  2. Seiliwyd yr erthygl hon ar erthygl Wicipedia [1], cyrchwyd 8.1.2022