Hen lwybrau'r cwmwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:46, 9 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyn dyddiau'r Rhufeiniaid â'u ffyrdd unionsyth, dichon bod teithio dros y tir yn yr iseldir yn anodd, oherwydd tyfiant trwchus a chorsdiroedd. Roedd yna ffermio ar y llethrau, fodd bynnag, a fyddai wedi gofyn am rywfaint o lwybrau a ffyrdd i gysylltu lle wrth le. At ei gilydd, fodd bynnag, haws oedd teithio ymhell ar y dŵr ac, er nad oedd afonydd yn Uwchgwyrfai y gellid hwylio ar hyd-ddynt, roedd y môr gerllaw, ac mae rhywfaint o dystiolaeth fod y Cymry cynnar wedi gwneud cryn ddefnydd o'r môr i gysylltu â mannau eraill o'r byd.

Rhaid bod rhyw fath o lwybrau, beth bynnag, rhwng y gwahanol fryngaerau yn yr ardal, a rhyngddynt hwy a thref Rufeinig Segontiwm. Roedd y Rhufeiniaid wedi adeiladu ffordd trwy'r cwmwd o Segontiwm i gaer Bryncir ac ymlaen i Drawsfynydd (Tomen y Mur), a elwid am ganrifoedd yn Sarn Helen. Fe'i gelwid felly ar ôl y dull o adeiladu a ddefnyddiwyd (sef sarn ar draws corsdir), ac yn Sarn Helen ar ôl Helen Luyddog, mam dybiedig yr Ymherawdwr Cwstennin o Gaernarfon. Am ganrifoedd hon oedd yr unig ffordd o sylwedd yn Uwchgwyrfai, mae'n debyg, nes i hyd yn oed grefft y Rhufeiniaid fynd yn ysglyfaeth i draul amser, tywydd a diffyg gofal.

Byddai Sarn Helen yn arwain pobl i Ddyffryn Nantlle ac ymlaen i'r de. I deithwyr oedd am gyrraedd Llŷn, byddai angen croesi tir corsiog ger y glannau neu, yn fwy tebygol os nad oedd modd defnyddio cwch, deithio ar hyd y traeth ar adeg llanw isel. Yn yr oesoedd canol daeth mynd ar bererindod yn gynyddol bwysig, a sefydlwyd llwybr diogel o eglwys i eglwys ac o ffynnon i ffynnon ger yr arfordir gan bererinion ar eu ffordd i Enlli. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod pedair o'r pum eglwys blwyf yn Uwchgwyrfai ger y glannau, tra bod y llall, Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni, ger croesfan Afon Llyfnwy, lle gellid tybio yr oedd rhyd ar Sarn Helen. Dywedir hefyd fod safle eglwys Llanllyfni'n dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.

Yn ogystal â ffordd a redai i'r un cyfeiriad â Sarn Helen, roedd (erbyn y 17g o leiaf) ffordd gydnabyddedig o Gaernarfon i Bwllheli, yn dilyn (yn fras) linell yr A499 heddiw, er i honno gael ei gwyro a'i hailosod sawl gwaith ers dyfodiad y Ffyrdd Tyrpeg ar ôl tua 1790.[1]

O gyfnod y Tuduriaid ymlaen, y plwyfi oedd yn gyfrifol am gynnal y ffyrdd, ond gan fod y ffyrdd yn croesi o blwyf i blwyf, nid oeddent mor berthnasol i'r plwyfolion â llwybrau a ffurfiwyd o'r traethau hyd y mynydd-dir, lle cludid calch ac y gyrrid anifeiliaid i'r porfeydd haf. Datblygodd llwybrau eraill yn arwain at safleoedd o bwysigrwydd lleol, megis y melinau a'r plastai. Mae'r patrwm "môr i'r mynydd" hwn i'w weld hyd heddiw os ystyrir map sy'n dangos ffyrdd a llwybrau cyhoeddus fel ei gilydd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Er enghraifft mewn dogfennau yn Archifdy Caernarfon, e.e. XQS/1658/182, lle gelwir y ffordd yn "Common Highway".