Thomas Lloyd Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:58, 7 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trydydd fab John Jones, Tal-y-sarn oedd Thomas Lloyd Jones (1838-1888). Am flynyddoedd roedd yn brif asiant Chwarel Dorothea, lle magodd enw iddo fo ei hun fel pennaeth teg ar y gweithlu, a fo a ddewiswyd fel llywydd cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Chwareuodd ran amlwg ym mywyd yr ardal: bu'n aelod o Fwrdd Ysgol Pen-y-groes, Bwrdd Gwarcheidwad Tlodion Caernarfon, ac yn ddiacon gyda'r Methodistiaid. Am gyfnod bu'n arolygwr gyda'r Awdurdod Iechydol Gwledig lleol. Roedd yn weithgar iawn gyda'r Blaid Ryddfrydol ac yn flaenllaw yng ngweithgareddau'r mudiad dirwest. Cafodd ei anrhydeddu gyda Chymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol (FRGS). Roedd yn deithiwr brwd ac yn ddarlithydd poblogaidd trwy Gymru gyfan, yn sôn am ei daith i Balesteina.

Ac yntau'n dal yn ddyn ifanc, cododd dŷ, Bryn Llywelyn, nid nepell o gartref a busnes ei rieni yn Nhal-y-sarn. Ymhen ychydig flynyddoedd, daeth y tŷ'n Westy'r Nantlle Vale. Bu'n byw wedyn mewn tŷ arall yn y pentref, Brynafon.

Bu farw 29 Rhagfyr 1888, gan adael un ferch a phedwar mab. Fe'i claddwyd yng nghist gladdu ei rieni ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni y dydd Iau canlynol, gydag oddeutu 2000 yn bresennol[1]. Roedd y gladdedigaeth yn cael ei gweinyddu dan delerau'r Ddeddf Gladdu newydd a roddwyd hawl i weinidogion anghydffurfiol gladdu pobl mewn mynwentydd eglwysig heb i'r ficer ganiatáu hynny.

Cyfeiriadau

  1. Carnarvon & Denbigh Herald, 4.1.1889, t.5