Moduron Seiont

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:34, 6 Ionawr 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bysiau ar faes Caernarfon tua 1935

Cwmni a redai fysiau o Gaernarfon i ardal Pen-y-groes a Nebo, ac yn ddiweddarach Nantlle, oedd Moduron Seiont. Sefydlwyd y cwmni gan John Evans ym 1912, a dyma felly un o'r cwmnïau bysiau cynharaf yn yr ardal.[1]

Tua 1927 fe gymerodd y cwmni y gwasanaeth a fu gynt yn cael ei redeg gan Gwmni Omnibws Seren Dyffryn Nantlle i bentref Nantlle, wedi i'r cwmni hwnnw gael damwain a falodd ei gerbyd.[2]

Gwerthwyd gwasanaethau Moduron Seiont ar ddiwrnod cyntaf 1934 i Gwmni Crosville, a roddodd y rhif 536 ar y gwasanaeth o Gaernarfon i Nantlle,[3] a throsglwyddwyd 9 o gerbydau i'r cwmni hwnnw. Dyma restr ohonynt:

  • bws Leyland, model PLSC3, 30 o seddau, rhif CC 7449, y rhoddwyd rhif fflyd 973 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1927, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1949 (gyda chorff newydd).
  • bws Leyland, model PLSC3, 32 o seddau, rhif CC 8021, y rhoddwyd rhif fflyd 972 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1928, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1949 (gyda chorff newydd).
  • bws Albion, model PR28, 30 o seddau, rhif CC 9592, y rhoddwyd rhif fflyd 974 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1929, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1935.
  • bws Leyland, model LT1, 30 o seddau, rhif CC 8531, y rhoddwyd rhif fflyd 970 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1929, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1936.
  • bws Leyland, model LT1, 30 o seddau, rhif CC 8532, y rhoddwyd rhif fflyd 971 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1929, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1936.
  • bws Morris, model Y6, 20 o seddau, rhif TE 7675, y rhoddwyd rhif fflyd 975 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1930, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1935.
  • bws Leyland, model TS2, 32 o seddau, rhif CC 9401, y rhoddwyd rhif fflyd 969 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1930, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1952(gyda chorff newydd).
  • bws Leyland, model TS1, 32 o seddau, rhif JC 200, y rhoddwyd rhif fflyd 968 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1931, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1952 (gyda chorff newydd).
  • bws Leyland, model TS3, 32 o seddau, rhif JC 1343, y rhoddwyd rhif fflyd 967 iddo gan Crosville. Roedd yn newydd yn 1933, ac fe redodd gyda Crosville hyd 1957.[4]

Diddorol yw sylwi ar hirhoedledd rhai o fysiau Seiont yn fflyd Crosville, ond nid oedd Crosville yn gwmni a gai wared ar eu bysiau'n fuan ac, i bob pwrpas, bysiau Leyland oeddynt yn eu ffafrio, fel Cwmni Seiont.

Amserlen Medi 1916[5]

Bysiau o Gaernarfon i Benygroes a Nantlle yn cychwyn: 9 a.m., 1 p.m. a 5 p.m. (Llun – Gwener); 9 a.m., 12.30 p.m. 4.30 p.m. ac  8.30 p.m. (Sadwrn).
Bysiau o Nantlle i Gaernarfon yn cychwyn: 10.00  a.m., 2.00  p.m. a 6.15 p.m. (Llun – Gwener); 10.00 a.m., 1.45 p.m. 5.45 p.m. ac 9.00 p.m. (Sadwrn).
Bysiau o Benygroes i Gaernarfon yn cychwyn: 10.15  a.m., 2.15  p.m. a 6.30 p.m. (Llun – Gwener); 10.15 a.m., 2.0 p.m. 6.00 p.m. ac 9.15 p.m. (Sadwrn).



Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. K.A. Jaggers, Buses around Bangor[1]
  2. Gwefan Nantlle.com, erthygl gan Michael Owen [2]
  3. W.J. Crosland-Taylor, Crosville - the Sowing and the Harvest (Lerpwl, 1948), tt. 132, 139.
  4. Peter Gould, Crosville Motor Services Ltd. Bus Fleet List Part 2 (1931-1935) [3]
  5. Y Genedl Gymreig, 19 Medi 1916, t.8