Gregory Williamson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:06, 29 Rhagfyr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sais heb gysylltiad ag Uwchgwyrfai oedd Gregory Williamson oedd yn byw yn hanner cyntaf y 16g. Cafodd ei benodi'n brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr ym 1537 gan Esgob newydd Bangor, John Capon, Sais arall na fuodd yn agos at ei esgobaeth cyn hyn. Dichon mai er mwyn ennill ffafr Thomas Cromwell, prif swyddog y brenin Harri VIII, oedd Capon, gan fod Williamson yn perthyn i Cromwell. Nid oedd dirprwy a Ficer Cyfredinol Bangor, y Dr John Glyn, yn fodlon gyda hyn, ac fel cynrychiolydd yr Esgob yn ei absenoldeb o'i esgobaeth, fe benododd Sion Gwynedd (John Gwynneth) i'r un swydd o brofost. Bu achosion cyfreithiol gan y ddau brofost honedig yn draul ar arian ac amynedd deilydd cyfreithlon y swydd am ryw bedair blynedd ond yn y diwedd, Gwynedd a orfu, oherwydd fod Capon wedi marw, a'i olynydd, yr Esgob Arthur Bulkeley wedi mynd tramor, a neb yn amddiffyn yr achos.[1]

Wedi hynny, ni chlywyd sôn am Williamson yng Nghlynnog Fawr.

Cyfeiriadau

  1. Colin A Gresham, A Further Incident in the History of Clynnog Fawr (Trafodion Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, 1966 (2) ), tt.301-2