Wesla Bach Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:28, 28 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd "cymdeithas" (sef eglwys) o'r Wesla Bach ym mhlwyf Llanllyfni yn ystod y 1830au, gan ddechrau yn ôl pob tebyg ym 1832 wrth ymneilltuo (mae'n fwy na thebyg) o drefniadaeth cylchdaith Caernafon y Wesleaid. Ni wyddys fawr ddim am yr achos cynnar hwn, oni bai am adroddiad ym 1833 yn dweud bod cymdeithas o'r Wesleaid a oedd wedi neilltuo o'r gylchdaith i'w chael ym mhlwyf Llanllyfni. Roedd yn un o 13 cymdeithas a wnaeth hynny yn Sir Gaernarfon; nid yw'n glir a oedd pob aelod Wesleaidd wedi gwneud hynny yn Nyffryn Nantlle.

Mudiad oedd y Wesla Bach a gychwynnodd yn bennaf gyda'r pregethwyr lleol (sef pregethwyr lleyg trwyddedig gan yr enwad) yn gwrthryfela yn erbyn rheolaeth gaeth, ond cyfansoddiadol gweinidogion, yr enwad dros yr aelodau a'r eglwysi unigol. Mudiad cyfyngedig i raddau i Ogledd Cymru ydoedd, er bod ganddo gysylltiadau â'r Methodistiaid Annibynnol yn Lloegr. Ym 1838, ymunodd y Wesla Bach â'r Gymdeithas Fethodistaidd Wesleaidd, un o ffrydiau eraill Wesleaeth, ac erbyn canol y 1840au, roedd y rhan fwyaf o eglwysi'r Wesle Bach wedi ymuno ag enwadau eraill, o'r Sandemaniaid i'r Calfiniaid.[1] Mae'n debyg mai dyna'r rheswm i raddau pam y rhentwyd Capel Bethel (W), Pen-y-groes i'r Methodistiaid ym mhentref Pen-y-groes fel cartref.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. A.H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, (Bangor, 1935), tt.211-52