Diwygiad Cwm Coryn
Cychwynnodd diwygiad yng Nghapel Cwm Coryn ym 1831. Mae Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon yn cofnodi'r digwyddiad yn ei hunangofiant. Ym mis Tachwedd 1831, meddai, torrodd y diwygiad mwyaf a welwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf allan yng Ngwm Coryn, pan nad oedd neb yn ei ddisgwyl. Cyhoeddwyd fod Thomas Pritchard, y Nant, i bregethu yno un noson. Doedd o ddim yn adnabyddus fel diwygiwr. Ni wnaeth gadw ei gyhoeddiad ac felly cynhaliwyd cyfarfod gweddi. Ynddo digwyddodd rhywbeth mor bwerus fel y cafwyd llawenhau trwy'r adeilad ymysg hen aelodau a rhai nad oeddynt yn aelodau o gwbl.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Robert Hughes, Hunan-Gofiant ynghyda Phregethau a Barddoniaeth y Diweddar Barch. Robert Hughes, (Robin Goch), Uwchlaw’rffynon, (Pwllheli, 1893) tt.33-5