Capel Cesarea (MC), Y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:44, 8 Rhagfyr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cafwyd dechreuadau eglwys Capel Cesarea mewn tŷ bychan o'r enw Yr Henfron wrth i ardal Y Fron ddechrau tyfu gyda chwareli gerllaw'n cael eu hagor. Dechreuwyd trwy gynnal ysgol Sul, efallai tua 1837, a chredir i'r capel gael ei adeiladu tua 1839-40, er na sefydlwyd yr achos ei hun tan 1842. Ymysg y prif symbylwyr roedd John Jones, Tal-y-sarn, ac ymaelododd dwsin o aelodau Capel Tal-y-sarn (MC) â'r achos newydd ar ei ddechreuad - cyn hynny Capel Tal-y-sarn oedd y capel Presbyteraidd agosaf at y Fron.

Ar y dechrau, llawr pridd oedd i'r capel, ac fe'i goleuwyd gan chwe channwyll. Roedd 133 o eisteddleoedd yno.

Teimlwyd effeithiau Diwygiad 1859 yno, a chynyddodd yr aelodaeth o 45 ym 1858 i 80 ym 1860 ac 85 ym 1862. Ym 1862, roedd 18 o athrawon gan yr ysgol Sul, 1 athrawes, ac 111 o rai yn mynychu'r ysgol Sul.

Gan fod yr achos yn cynyddu, codwyd capel newydd ym 1864, yn agos at safle'r hen gapel, ar dir Bronyfoel. Gallai'r capel newydd ddal dwywaith cymaint o bobl â'r hen un - sef 256. Gwerthwyd yr hen gapel am £20 ym 1865. Daliai'r achos i dyfu fodd bynnag, a theimlwyd yr angen am godi capel mwy fyth. Gosodwyd y garreg sylfaen yn ei lle, 28 Awst 1880, ar safle newydd tua chwarter milltir yn agosach at Fynwent Twrog yn y pentref. Y pensaer oedd y Parch. Griffith Parry, Llanberis, a'r contractor, Evan Jones, Plas Dolydd. Agorodd y capel flwyddyn i'r diwrnod wedi gosod y garreg sylfaen, ar gost o £2436. Gwerthwyd yr hen gapel am £60 ym 1898, a'r flwyddyn ganlynol fe werthwyd yr hen dŷ capel am £141, gan godi un newydd am £305 gerllaw'r adeilad newydd. Rhaid oedd atgyweirio tu blaen y capel ym 1900.

Ym 1900, roedd yr aelodaeth wedi codi i 235. Ysywaeth, mae'r achos wedi cau ers blynyddoedd erbyn hyn.[1] Fe'i dymchwelwyd yn 2009.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.257-70