Clogwyn Marchnad

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:09, 24 Tachwedd 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Clogwyn Marchnad yw'r enw ar y clogwyni ar wyneb gorllewinol Mynydd Drws-y-coed, uwchben pen uchaf y cwm lle mae Afon Tal-y-mignedd yn codi. Mae llwybr Crib Nantlle yn rhedeg ar hyd ei dop. Er bod y clogwyni'n serth iawn i'r gorllewin, i'r dwyrain mae'r llethrau'n llai serth, a rhed Cwm Marchnad ym mhlwyf Beddgelert i lawr i gyfeiriad Llyn y Gader. Er bod llawer yn cerdded y grib, mae'n ymddangos nad oes fawr neb yn dringo i fyny wyneb Clogwyn Marchnad ei hun.

Mae'r enw'n ddiddorol. Prin bod marchnad erioed wedi ei chynnal yn y cyffiniau diarffordd hyn, a rhaid tybio ai rhywbeth fel March-naid ydyw'r enw gwreiddiol, yn cuddio rhyw hen chwedl anghofiedig.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma