Melin Penllechog
Safai Melin Penllechog ar gyrrion pentref Llanaelhaearn. Melin at ddiben malu grawn ydoedd.[1] Mae'r adeilad yn dal yno, ar y llethr yr ochr chwith i'r briffordd wrth i rywun deithio ar hyd yr A499 i gyfeiriad Pwllheli, ger yr arwydd 30mya. ym 1891, Hugh Roberts, gwr 30 oed o Abererch, oedd y melinydd, ac yr oedd yn ffermio hefyd. Dylid nodi, serch ei fod yn ffermio tir y felin, roedd fferm Penllechog ei hun yn cael ei ffermio ganrywun arall, sef Rowland Prichard.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma