New Inn, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:57, 17 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y New Inn yn un o ddwy dafarn Clynnog Fawr. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan oedd hi'n cael ei chyfeirio ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y poryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys Bachwen, Graeanog, Melin Bryn-y-gro, Melin Faesog, Coch-y-big a Henbont[1]

I'W PARHAU

  1. Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510