Ysgol Babanod Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:16, 1 Hydref 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Ysgol Babanod y Groeslon ym 1926 mewn adeilad newydd ym mhentref Y Groeslon i ddarparu addysg ar gyfer dosbarthiadau Safon 1 a 2 a oedd gynt yn Ysgol Penfforddelen. Roedd adeilad yr ysgol honno'n gynyddol anaddas a gorlawn, a phenderfynodd Rheolwyr yr Ysgol greu ysgol i'r babanod yn Y Groeslon, ac un arall yng Ngharmel. Roedd rhieni'r Groeslon wedi mynegu eu bwriad i ymatal rhag anfon eu plant i adeilad Penfforddelen hyd nes y gwnaed gwelliannau i'r cyflenwad dŵr a'r toiledau. Symudodd Miss S.A. Gray, yr athrawes ar fabanod Penfforddelen, i'r ysgol newydd fel pennaeth. Roedd hi wedi bod ym Mhenfforddelen ers 1895 - merch yn wreiddiol o Lanelli ydoedd. Un o'tr plant cyntaf i gychwyn yn yr ysgol newydd oedd Mr Leslie Williams, a fu wedi iddo dyfu i fyny yn bostfeistr y pentref am flynyddoedd lawer. Mae ganddo atgof o ba mor lân oedd yr adeilad newydd, ac o'r gwersi byd natur yng ngae'r ysgol.

Ymddeolodd Miss Gray ym 1934, ac fe'i holynwyd gan Miss Margaret Thomas, Penbryn Ffatri, Pen-y-groes, a ymunodd â'r athrawes arall, Miss Jennie Powell Parry, i ddarparu addysg i'r babanod.