Huw Lloyd Edwards
Dramodydd Cymreig oedd Huw Lloyd Edwards (1916-1975), a anwyd yn Siop Gron, Llanrug. Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Pen-y-groes, lle dylanwadodd ar nifer o ddisgyblion a aeth yn eu blaen i wneud gyrfa ym myd y ddrama a'r cyfryngau. Wedyn, bu'n ddarlithydd dylanwadol yng Ngholeg y Normal, Bangor.
Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gweddol ysgafn eu naws ond yn waith o sylwedd a enillodd ednygedd y beirniaid. Roedd ei ddrama Cynfyng-Gyngor yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth drama tair act Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy.
Nododd J. Ellis Williams yn ei lyfr Tri Dramaydd Cyfoes (sef Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards) 'fod gan Huw Lloyd Edwards y ddawn gynhenid i greu difyrrwch, a adlonai gynulleidfa, ac fe sylweddolodd y gellid defnyddio'r ddawn hon, nid yn unig i gyffroi cynulleidfa i chwerthin, ond hefyd i'w chyffroi i feddwl drosti ei hun.' Dyna a wnaeth yn ei gomediau ysgafn a'i ddramau radio a llwyfan.[1]
Dramâu
- Llwyn Brain : comedi ysgafn, tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
- Yr Orffiws : comedi mewn tair act, Gwasg Aberystwyth, 1956
- Y gŵr drwg: comedi, Gwasg Aberystwyth, 1957
- Cyfyng-Gyngor, Gwasg Aberystwyth, 1957
- Y Gŵr o Gath Heffer ac Y Gŵr o Wlad Us, Gwasg Gee, 1961
- Ar Ddu a Gwyn, Gwasg Gee, Rhagfyr 1963
- Pros Kairon: Drama mewn tair act,Gwasg Gee, Rhagfyr, 1967
- Y llyffantod: Drama mewn pedair golygfa, Gwasg Gee, Rhagfyr, 1973
- Y lefiathan : ffantasi mewn pum golygfa, Gwasg Gee, 1977