Llandwrog Uchaf
Gelwir rhan uchaf plwyf Llandwrog yn Llandwrog Uchaf, er weithiau fe ddefnyddir yr enw fel enw ar bentref Y Fron neu Cesarea. Yn fras, mae'n cynnwys y tir a ddatblygwyd gan sgwatwyr ar y tir comin tua diwedd y 18g ymlaen, lle heddiw ceir pentrefi Carmel, Cilgwyn a'r Fron, a'r mynydd-dir agored y tu draw.
Tlodion ac anghydffurfwyr oedd rhelyw y boblogaeth ym mhen ucha'r plwyf ac mi roeddynt yn dueddol o fynd yn groes i ewyllys yr Arglwydd Newborough mewn cyfarfodydd o festri'r plwyf a reolai faterion plwyfol hyd 1888. Aeth un ficer mor bell â chwyno wrth yr Arglwydd Newborough am "the rabble from the upper part of the parish". Tua chanol y 19g, rhannwyd plwyf Llandwrog yn ddwy, gan godi eglwys newydd (St Thomas) ar gyfer rhan ucha'r plwyf rhwng Y Groeslon a Charmel. Rhaid amau ai oherwydd y drafferth a achoswyd gan y bobl rhydd eu barn hyn gymaint â'r angen am ddarparu man addoliad y codwyd Eglwys St Thomas!