Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:34, 22 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd, neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn Llanllyfni, sef Capel Tŷ'n Lôn. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.

Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr nmeu anghydffurfwyr eraill oedd y tir i gychwyn, gan fod ambell i garreg fedd yno yn dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef David Thomas Jones, a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 22.4.2021