Afon Gochoer
Ffurfiai Afon Gochoer y ffin ogleddol ar gyfer hen drefgordd Bodellog.[1] Mae'r afon yn codi ar gyrion Cors y Llyn ychydig i'r de o bentref Nebo, ac yn llifo i'r gorllewin heibio i ffermydd Glan-yr-afon ac Eisteddfa. Yn y fan honno, roedd melin lifio coed yr arferid ei throi trwy rym dwr Afon Gochoer. Aiff yr afon yn ei blaen heibio i fferm Bryn-y-gro ac i safle hen felin yr Arglwydd, Melin Bryn-y-gro, a'i hanes yn ymestyn yn ôl i'r canol oesoedd. Mae hi'n ymuno ag Afon Llyfni ger Dol-gau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Ebenezer Thomas, ‘’Cyff Beuno’’, (Tremadog, 1863), t.24