Ffair Llanllyfni
Ffair yn Llanllyfni yw Ffair Llanllyfni sydd wedi ei chynnal ers blynyddoedd ar 6 Gorffennaf. Dyna yw dydd gŵyl Rhedyw Sant, y mae Eglwys Llanllyfni wedi ei chysegru iddo. Cysgod o ffeiriau'r gorffennol yw'r ffair erbyn hyn ond fe'i chynhelir o hyd.