O. Llew Owain

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:14, 15 Ebrill 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd O. Llew Owain (1877-1956) yn llenor, cerddor a newyddiadurwr.

g. ym Mlaenyryrfa, Tal-y-sarn ar 3 Gorffennaf 1877

  • Yn 12 oed aeth i weithio yn chwarel y Gloddfa Glai a Chwarel Cornwall ar ôl hynny.
  • Yn 15 oed dechreuodd ar yrfa mewn newyddiaduraeth a bu’n aelod o staff olygyddol Y Genedl Gymreig a’r Herald wedi uno’r ddau bapur.
  • Ymddeolodd yn 1936 ond parhaodd i gyfrannu i’r wasg.
  • Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr.
  • Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau.
  • Roedd ganddo gôr bychan —Côr y Delyn Aur.
  • Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr.
  • Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon.

• Awdur cofiannau fel: Fanny Jones (1907) Ieuan Twrog (1909) J.O. Jones (Ap Ffarmwr) (1912) T.E. Ellis (1916) Anthropos a Chlwb Awen a Chân (1946) Bywyd a gwaith ac arabedd Anthropos (1953)

  • Awdur nifer o erthyglau yn Y Traethodydd a’r Drysorfa.
  • Awdur Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943 (1948)
  • Priododd (1) Claudia Roberts yn 1916. Wedi iddi farw ailbriododd yn 1918 ag Enid May Jones. Bu farw yn eu cartref, Bryn-y-coed, 10 Pretoria Avenue,* Caernarfon, 8 Ionawr 1956.[1]

Amlosgwyd ei weddillion ym Mhenbedw.[2]


Troednodiadau

  1. Nid oes stryd o’r enw hwn yng Nghaernarfon bellach ond ceir Rhes Pretoria yno.
  2. Crynhowyd o’r Bywgraffiadur Cymreig (awdur Evan David Jones, FSA, Aberystwyth).